Neidio i'r prif gynnwys

Llunio Dyfodol Addysg

PlatFform creu a rhannu adnoddau gyfaelgar

DYSGA-net educational platform preview

Wedi blino treulio oriau diddiwedd yn creu ac addasu adnoddau addysgu?

Dychmygwch greu deunyddiau cwbl addasadwy, hynod afaelgar ar gyfer eich disgyblion mewn dim ond ychydig o gliciau!

Ymunwch â DYSGA-net i gymryd mantais o'r platfform anhygoel yma, ac arbedwch amser aruthrol wrth drawsnewid eich gwersi.

Rydym am eich helpu i symud i ffwrdd o daflenni gwaith 'diflas' gyda phrofiad unigryw sy'n cael ei yrru gan stori sy'n gyfoethog, rhyngweithiol ac yn hynod afaelgar.

Rydym yn gwybod eich bod yn treulio oriau yn paratoi adnoddau o safon ar gyfer eich disgyblion, heb wybod a fyddant yn ymgysylltu â'r gweithgaredd. Ac rydym am roi'r offer i chi greu gweithgareddau hynod ddeniadol bob tro - gan ddefnyddio'r sgiliau sydd gennych eisoes.

Bydd yr offer hyn hefyd yn eich helpu i leihau'r amser rydych chi'n ei dreulio ar baratoi yn sylweddol - canolbwyntiwch chi ar y dysgu, a fe wnawn ni edrych ar ôl y cyflwyniad a'r ymgysylltu.

DYSGA.net: Troi eich syniadau mewn i adnoddau hynod afaelgar, mewn munudau.

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i greu profiadau bythgofiadwy i blant.

Dyma ein Egwyddorion Craidd

  • Parchu amser a sgiliau athrawon
  • Creu profiadau hynod afaelgar
  • Gwneud offer i rymuso nid i ddisodli

Ffurflen Mynediad Cynnar

"Roedd y plant wedi joio’r llyfr, roedd y stori a’r cymeriadu’n cŵl a modern a’r plant yn methu aros i wybod beth oedd yn digwydd nesaf"

Mr James

Aberaeron

"Waw! 'Na beth mae’r plant yn dweud bob tro dwi’n dangos y profiad mewn ysgol. Mae’r plant yn dwli ar y gêm ac yn joio gweld y cymeriadau o’r llyfr yn dod yn fyw yn y gêm, fel bod nhw’n dod yn rhan o’r stori."

Hana

Menter Iaith

"O’n i’n dwli ar y stori, oedd e’n cŵl cael stori a chymeriadau modern mewn stori Gymraeg, fi moyn gwybod be sy’n digwydd nesa!"

Plentyn

Aberaeron

"Rhwng y stori a’r tasks a’r gêm o’n ni’n neud pob math o bethe; darllen, sgwennu, maths...lot o stwff, ond odd e’n hwyl."

Plentyn

Aberaeron

"Sain fussed am ddarllen, mae’n boring. Ond nes i rili joio’r llyfr ma. Odd y cymeriadae yn rili cŵl a futuristic, fi actually moyn darllen mwy nawr!"

Plentyn

Aberaeron

"Odd e mor cŵl bod cymeriad drone yn y stori a bod na computer game Cymraeg i ni gal chware... a bod e ddim yn boring."

Plentyn

Aberaeron

O’n i’n dwli ar y stori.Oedd e’n cŵl cael stori a chymeriadau modern mewn stori Gymraeg.Fi moyn gwybod be sy’n digwydd nesa!O’n i’n dwli ar y stori.Oedd e’n cŵl cael stori a chymeriadau modern mewn stori Gymraeg.Fi moyn gwybod be sy’n digwydd nesa!
DYSGA-net community photo 1
DYSGA-net community photo 2
DYSGA-net community photo 3
DYSGA-net community photo 4
DYSGA-net community photo 5
DYSGA-net community photo 6